Bwncath - Castell Ni (gydag ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon)
Bwncath Bwncath
500 subscribers
10,508 views
114

 Published On Jul 5, 2024

Yn ôl yn 2020, mi gymerodd Elidyr Glyn ran mewn prosiect ar y cyd ag Ysgol Y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan drwy ysgrifennu cân yn seiliedig ar atebion y plant i gwestiynau ynglŷn â’u teimladau am hanes Caernarfon gan ganolbwyntio ar y Castell. Uchafbwynt y prosiect gwreiddiol oedd mynd i Gastell Caernarfon i berfformio’r gân ar y cyd.

Ar ôl y cyfnod clo, daeth cyfle i ymestyn y prosiect ymhellach wrth i’r band ddechrau ar y broses o recordio’r gân yn stiwdio Sain. Wedi hyn, yn 2023 rhoddwyd gwahoddiad i holl blant ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon ddod i recordio’r gân yn Ysgol Syr Hugh Owen. Y tro hwn, daeth dros 400 o ddisgyblion o Ysgol Bontnewydd, Y Gelli, yr Hendre, Maesincla, Rhosgadfan, Rhostryfan a Santes Helen i gyd-ganu.

I gloi'r prosiect gwahoddwyd y plant i berfformio’r gân dros yr aber gyferbyn a’r castell yng Nghaernarfon ar fore'r Ŵyl Fwyd ym mis Mai eleni, gan ffilmio'r cyfan er mwyn creu fideo i gyd-fynd a rhyddhau’r recordiad. Cafwyd profiad bendigedig o recordio’r fideo gyda chymorth a chefnogaeth athrawon a rhieni’r plant.

Cerddoriaeth
Bwncath ac ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon

Cyfarwyddwr a Golygydd
Jamie Walker

Camera
Hedydd Ioan

Gyda diolch i
Ysgol Bontnewydd
Ysgol Y Gelli
Ysgol yr Hendre
Ysgol Maesincla
Ysgol Rhosgadfan
Ysgol Rhostryfan
Ysgol Santes Helen
Gŵyl Fwyd Caernarfon
Ysgol Syr Hugh Owen

Label
Sain Recordiau

Cynhyrchydd
Robin Llwyd

Geiriau
Yma mae 'nghalon yn curo
Ac yma 'dw i'n troedio y stryd,
Dyma fy lle
Yma'n y dre’,
Dyma ganol fy myd.

Yma ma'n ffrindiau a'n nheulu
A ninnau'n un teulu i gyd,
Dyma fy llef
I bawb yn y dref;
Dewch i ganu ynghyd.

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
Hon yw dinas fy myd,
Ei hiaith yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd.

Ac ambell i dro fydda’ i'n cofio
Am boen yr holl frwydro a fu,
Ond dysgu a wnawn,
Defnyddiwn ein dawn
I ailgynnau ein ffydd.

Ac yna fe godwn ein tyrrau,
Agorwn ein drysau i'r byd,
Mae croeso’n y dre
I bawb o bob lle,
Dewch i ganu ynghyd.

‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.
Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
yn awr yn gastell i ni.

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
Hon yw dinas fy myd,
Ei hiaith, yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd.
O caraf, mi garaf Caernarfon,
O mor werthfawr yw hi,
Mor glir â dŵr yr afon
Ydy hynny i mi.

‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.
Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
yn awr yn gastell i ni.

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
Hon yw dinas fy myd,
Ei hiaith, yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd.
O caraf, mi garaf Caernarfon,
O mor werthfawr yw hi,
Mor glir â dŵr yr afon
Ydy hynny i mi.

Llywelyn Elidyr Glyn

show more

Share/Embed